Blog: Etholiadau Llywodraeth Cymru

ARCHIF: Rob sy'n dechrau'r drafodaeth ar ein gofynion polisi at Lywodraeth nesaf Cymru

Published: 01.09.2023 ( 10 months ago )

Mae etholiad Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf. Gan ystyried yr argyfyngoedd niferus yr ydym yn eu hwynebu, nid yw’n ormodedd i ddweud mai dyma’r etholiad pwysicaf i ni ers tro. Bydd y llywodraeth nesaf yn gyfrifol am oruchwylio’r adferiad wedi Covid, yn wynebu goblygiadau Brexit ac yn mynd i’r afael â’r argyfyngoedd amgylcheddol amrywiol sy’n llechu, gan geisio trawsnewid ein cymdeithas yn un ddigarbon a chynaliadwy.

Mae’r ffactorau hyn yn cyflwyno her anferthol i lywodraeth y dyfodol. Bydd angen ein cefnogaeth arnynt, ond hefyd ein llygaid craff, er mwyn eu dal i gyfrif a sicrhau nad yw’r pynciau hollbwysig hyn yn cael eu gohirio dim pellach. Yn ffodus, yn y sector Ynni Cymunedol, mae gennym rwydwaith o bobl ymroddgar ac angerddol ym mhob rhan o’n gwlad. Mae ein cymunedau’n arwain ac yn arloesi wrth i ni geisio am uchelgais deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol a cheisio goresgyn yr heriau anferthol rydym yn eu hwynebu dros y blynyddoedd nesaf gydag ysbryd o gydweithio ac o fod yn gymorth i’n gilydd.

Yr her i Gymru fel cenedl yw sut yr ydym ni’n datgloi’r yr hyn sy’n bosib yn ein cymunedau. Sut yr ydym ni’n hwyluso’r broses o wireddu cynlluniau, a gwaredu unrhyw rwystrau sy’n atal symud ymlaen? Yn aml mae ein cymunedau wedi gorfod ymdrechu a brwydro i wneud yr hyn y maent eisiau ei wneud. Mae prosiectau a ddylid cymryd 5-6 mlynedd yn cymryd 12-13 mlynedd.

Felly, yr heriau i’n sector ni nawr wrth i ni groesawu senedd newydd yw i uwcholeuo’r polisïau allweddol fyddai’n gallu datgloi potensial gweithredu cymunedol. Polisïau sy’n symbylu rhagor o brosiectau ynni cymunedol yng Nghymru, a galluogi dinasyddion i fod yn rhan weithredol o gynhyrchu ynni, effeithlonrwydd ynni, trafnidiaeth a gwres. Dyma’r unig ddull i sicrhau bod yr arian sy’n cael ei gynhyrchu gan y buddsoddiadau hyn yn cael eu cadw o fewn ein cymunedau.

Rydym eisiau dechrau sgwrs gyda’n haelodau, a sefydliadau eraill sy’n cefnogi ein bwriadau er mwyn darganfod y 5 polisi allweddol y dylai llywodraeth nesaf Cymru eu mabwysiadu. Polisïau sy’n galluogi ein sector i ffynnu, a gweithio gyda’n gilydd i greu dyfodol cynaliadwy a chadarnhaol.

Os hoffech chi gymryd rhan, llenwch ein holiadur a dechreuwch feddwl am syniadau. Byddwn yn cynnal gweithdy er mwyn dewis 5 gofyniad polisi allweddol er mwyn gallu eu cyflwyno i aelodau newydd y Senedd yn Mai 2021.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.