Teithiodd Eira McCallum o Awel Aman Tawe i Glasgow ar gyfer COP26, yma mae’n rhannu ei phrofiadau a’r hyn wnaeth ei hysbrydoli hi fel person ifanc.
‘The people that are paying the first and most brutal price for the greed, the exploitation, the domination of a handful of powerful nations, are the ones that contributed least to it and that is why we say there is climate injustice and that is why we need climate justice.’ - Kumi Naidoo
Es i i Glasgow am bythefnos o COP26. Nes i ddim ymweld â’r digwyddiadau swyddogol, yn lle es i i’r digwyddiadau fringe oedd yn digwydd o amgylch y ddinas. Oherwydd y digwyddiadau hyn, ges i’r fraint o glywed lleisiau ymgyrchwyr ifanc a phobl o bedwar ban byd. Cynhaliwyd nifer o drafodaethau grymusol a goleuedig yn ‘Extreme Hangout’, ac mae recordiau o’r sesiynau hyn ar gael i’w gwylio am ddim yma.
Roedd y sgwrs banel ‘Young people adapting their lifestyle to build a more sustainable future’ yn cynnwys Charles Baldaia o Brazil ac Emma De Saram o’r DU. Siaradon nhw am brynwriaeth, a sut fedrwn ni wneud gwahaniaeth trwy’r hyn rydym yn ei brynu. Os oedden ni’n ymatal rhag prynu gan gwmnïau anfoesol, byddai rhaid iddyn nhw ddod yn fwy egwyddorol. Dyma ein grym fel prynwyr, ond mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol bod cwmnïau’n gallu gwyrddgalchu; sef brandio er mwyn ymddangos yn gynaliadwy’n amgylcheddol a chymdeithasol gan barhau i reibio’r amgylchedd a chadw amglychiadau gwaith gwarthus. Mae rhaid i ni fod yn ymwybodol, ac adnabod gwyrddgalchu, i ymchwilio i egwyddorion y cwmnïau rydym yn eu defnyddio, a boicotio’r rheiny sy’n dinistrio’r blaned.
Cododd Emma De Saram bwynt allweddol: y pwysigrwydd o gael ‘newid cyfiawn’. Wrth i ni newid at nwyddau ac adnoddau cynaliadwy (sydd fel arfer yn meddwl lleol) mae’n rhaid i ni ddod â phobl gyda ni, a pheidio eu gadael ar ôl. Mae angen i weithwyr a defnyddwyr ddod ynghyd i weithio tuag at ddyfodol cynaliadwy, a galluogi’r gweithwyr i arwain a gwneud penderfyniadau fydd yn effeithio ar eu dyfodol. Siaradodd Charles Baldaia am amser pan ddaeth sefydliad i’w cymuned nhw, favela ym Mrasil, er mwyn eu helpu. Doedd lleisiau’r gymuned ddim yn rhan o’r sgwrs am y math o help oedd ei angen. Arweiniodd hyn at y sefydliad oedd yn ymweld â’r gymuned yn mynd i’r afael â’r pwnc anghywir. Dysgodd y sefydliad y trigolion lleol sut i ailgylchu, gan roi biniau ar wahân i wahanu’r sbwriel, ond pan ddaeth y casglwyr sbwriel i’w hebrwng oddi yno, roedd popeth yn cael ei daflu i mewn i’r un bin. Pe bai’r sefydliad hwn wedi siarad gyda’r bobl, a gofyn beth oedd eu problemau, byddent wedi gallu dweud nad oedd ganddynt ddull o ailgylchu’n y lle cyntaf, ac i ddechrau yn y fan honno. Teimla Charles yr un peth am y diwydiant bwyd a ffasiwn; mae’r prynwyr yn arwain y mudiad ar hyn o bryd, ond ddim yn siarad gyda’r gweithwyr. Cydweithio felly yw’r dull o wneud newidiadau effeithiol. Ar banel gwahanol, siaradodd Marinel Obaldo, ymgyrchydd a oroesodd teiffŵn Haiyan yn y Ffilipinau, am gymhlethdod yr arwr gwyn, y syniad bod y rheiny o wledydd gogleddol y byd yn teimlo’r angen i ‘achub’ y rheiny yn y de, yn hytrach na gwrando arnynt, eu cefnogi a chydweithio gyda nhw.
Mae’n erchyll i ddod i’r sylweddoliad bod ein ecosystem yn pylu, bod pobl yn marw, a bod angen newid - ar gyfer rheiny sy’n dioddef heddiw, ac i’n hwyrion fydd yn dioddef yn y dyfodol. Ond, nid ydym ar ein pen ein hunain. Weithiau mae’n teimlo fel bod angen i ni ganfod y datrysiadau ein hunain - mae gymaint o bobl wedi gofyn i mi, ‘nawr dy fod di wedi bod yn COP, be ddylwn i wneud?’ a dw i ddim go iawn yn gwybod beth i ddweud, heblaw hyn - ymuna â’r sgwrs. Ddei di i sylweddoli, fel dw i wedi’i wneud, faint o bobl sydd yn y frwydr hon. Gwranda, a dysga o’r rheiny nad oedd wedi’u gwahodd i siarad yng ngofodau swyddogol COP ond oedd wedi cael gwahoddiad i ofodau fel the Extreme Hangout a COP26 Coalition. Mae nifer o bobl arbennig fedrith ddod o hyd i’r atebion sy’n angenrheidiol i ni allu cael cyfiawnder hinsawdd ac adeiladu dyfydol cynaliadwy, ac mae angen i ni wneud i’r bobl hynny deimlo’n gartrefol, eu cefnogi nhw i ddod i’r gofodsu lle mae’r penderfyniadau’n cael eu gwneud. Cofiwch mai’r bobl sydd yn wirioneddol mynd i’r afael â newid hinsawdd gyda’u holl ymdrech yw’r rheiny y mae’r argyfwng yn effeithio arnyn nhw’n barod, a’r rheiny bydd yn gweld ei heffeithiau o fewn eu bywydau. Mae’r bobl sydd mewn grym yn cael budd o’r system niweidiol rydym yn byw ynddi. Wnawn nhw ddim ymladd i ddod â newid hinsawdd i ben, am nad yw o fudd iddynt i wneud hynny.
Siaradodd nifer o bobl mewn nifer o banelau am sut y dylai pobl o’r gwledydd sy’n cael eu heffeithio gael llwyfan. Siaradon nhw am y ffaith nad oedd cynrychiolaeth go iawn o bobl o bob rhan o’r byd yn COP26. Roedd nifer o enghreifftiau lle nad oedd gwledydd yn medru anfon cynrhychiolwyr oherwydd y gost o wneud hynny, ac felly heb lwyfan na llais yn COP. Roedd enghreifftiau o gynrhychiolwyr a oedd ond yn cael siarad am ychydig a bod yn rhan o luniau ond ddim yn cael eu cynnwys mewn gofodau lle’r oedd penderfyniadau’n cael eu gwneud. Siaradodd pobl ifanc a phobl o liw ar baneli’r Extreme Hangout am sut yr oeddent yn teimlo fel person o liw tocenistaidd neu berson ifanc tocenistaidd. Byddai gwleidydd yn cael llun gyda nhw i roi’r argraff eu bod yn cydweithio, ond mewn realiti, doedd dim hawl ganddynt i fod yn y gofodau lle’r roedd penderfyniadau yn cael eu cymryd.
Mae Charles Baldaia yn gweithio gyda’r sefydliad United for Climate Action (U4CA), sydd wedi codi arian i gael 17 o bobl o gymunedau ymylol i mewn i COP26, ynghyd â chyfieithwyr i’r rhai nad ydynt yn siarad Saesneg. Yn ystod COP26, roedd arlywydd Columbia yn browlan celwyddau am driniaeth ymgyrchwyr hinsawdd yn Columbia. Roedd un o’r 17 a ddaeth gyda’r U4CA, ymgyrchwr o Golumbia, yn gwybod mai celwydd oedd honiadau’r arlywydd. Dywedodd wrth Charles ei fod yn teimlo mor rhwystredig am nad oedd ganddo’r grym i ddweud wrth yr arlywydd a phawb arall ei fod e’n dweud celwydd. Wedyn, ar bedwerydd neu bumed diwrnod COP26, llwyddodd i ddod wyneb yn wyneb â’r arlywydd, a dweud i’w wyneb ei fod wedi bod yn dweud celwyddau gyda’r wasg yn eu hamgylchynu. Dywedodd Charles fod hyn yn anhygoel. Gwelodd y fideo ac ebychodd; ‘I was like, ‘I got his badge’, it was awesome. That is the power of our being here, if we did not have him (the Columbian activist) inside of COP26, this leader would just go away with his lie. Because we are here, we have the power to say to his face that he is lying.’
Mae rhwydwaith o bobl yn ymladd newid hinsawdd ledled y byd, mewn dulliau gwahanol. Mae fy rhieni wedi treulio rhan fwyaf o gyfnod fy mywyd innau’n gweithio i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, felly mae wedi teimlo i mi weithiau fel mai brwydr iddyn nhw ydy hi, eu bod nhw’n ei wneud ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Ond mae fy rhieni i’n un mewn miliwn go iawn.
Cwrddais i â Hannah a Guerrero, ymgyrchwyr o Hamburg yn yr Almaen. Maen nhw o gwmpas fy oedran i, 23, a nhw yw’r ymgyrchwyr ifanc cyntaf i fi gwrdd â nhw. Trwyddon nhw, ges i fy nghyflwyno i ofod roeddwn i eisiau bod yn rhan ohono, a ffordd o ymgyrchu sy’n fy ngweddu i; warws gwag gyda chelf ym mhobman, bwyd, sgyrsiau a cherddoriaeth. Rydym yn gweithio’n wahanol, a byddwn yn mynd i’r afael â newid hinsawdd mewn dulliau gwahanol. Mae modd canfod eich lle drwy wrando ar yr hyn sy’n bodoli eisioes. Gallwch ddechrau drwy wylio dim ond un o’r fideos soniais i amdanynt yn yr Extreme Hangout, neu edrych ar Friends of the Earth, YMCA, Green New Deal Rising, United for Climate Action neu 2041 Foundation. Peidiwch ymuno â phopeth, ond ymunwch â rhywbeth, does dim modd i ti ddatrys newid hinsawdd, ond mae modd i ni.
Gallwch gefnogi uchelgais Ynni Cymunedol Cymru o sicrhau ynni glân o dan berchnogaeth gymunedol drwy danysgrifio i’n cylchlythyr, ein dilyn ar Twitter, neu gefnogi mudiad ynni cymunedol lleol.