Dechreuais weithio gyda thîm Ynni Cymunedol Cymru fel Swyddog Ymchwil a Pholisi yn ddiweddar. Ddes i ar draws ynni cymunedol am y tro cyntaf nôl yn 2015 mewn darlith polisi ynni yn ystod prynhawn cysglyd. Roedd y darlithydd yn siarad am y syniad o gymysgedd ynni, a dangosodd ddarlun o’r ystod o ddulliau o gynhyrchu ynni a’u maint – o PV cartref i ffermydd gwynt enfawr. Yng nghanol y darlun oedd ynni cymunedol, dull cynhyrchu oedd yn siapio rhan o’r system ynni ehangach, gydag enghreifftiau oedd yn amrywio o hydros bychain yn yr Alban i PV solar ar neuadd bentref yn Nyfnaint. Doedd hyn ddim yn rhywbeth oeddwn i wedi dod ar draws o’r blaen, a thaniodd fy nychymyg. Dw i wedi bod yn cymryd nodiadau ar bopeth yn ymwneud ag ynni cymunedol ers hynny, a pharhau i ddysgu am y sector bychan ond cydnerth hwn yn y DU, yn enwedig yng Nghymru.
Sylweddolais fod ynni cymunedol yn gweddu Cymru am fod ei chymunedau wedi’u clymu at y tirwedd, yn agos at adnoddau naturiol gyda mynyddoedd ac afonydd. Wrth feddwl am fy magwraeth yn Eryri, ar ochrau’r Carneddau gyda’u nifer o droeon gwyntog, a’r cyfnod nes ymlaen yn nyffryn Peris a nofio yn Llyn Padarn – dw i wedi bod yn ffodus i brofi’r amrywiaeth o dywydd Cymreig, o glaw a chenllysg i’r ysbeidiau heulog prin.
Mae wedi bod yn gyffrous iawn i weld hydros cymunedol yn cael eu datblygu yn nyffryn Ogwen a Pheris dros y blynyddoedd diwethaf, a gweld pobl yn casglu at ei gilydd i greu ynni cymunedol ac incwm ohonynt. Peth braf hefyd yw gweld cymunedau’n gwneud defnydd da o’r glaw sydd gennym ni yma yng Nghymru!
Maent yn gymunedau sydd â pherthynas agos â’r tirwedd – ac yn enwau’r mentrau ynni cymunedol – Ynni Padarn Peris ac Ynni Ogwen – fe welwn ni’r cysylltiad ag Afon Ogwen ac Afon Goch yn Nyffryn Peris. Mae’r cyswllt hwn rhwng ynni a thirwedd wedi bodoli ers y cyfnod diwydiannol yn y rhan yma o Gymru, gyda thechnoleg hydro a oedd yn cael ei ddefnyddio mewn chwareli llechi yn y gorffennol, bellach yn cael ei defnyddio i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy. Dyma yw grym ynni cymunedol: defnyddio adnoddau lleol i bweru’r hydro cymunedol yn grymuso cymunedau lleol drwy gadw buddion lleol.
Fel rhan o’r PhD, roedd hi’n wych i weithio gydag ystod o brosiectau – diolch i bawb wnaeth rhoi amser i gael panad a sgyrsiau am brosiectau ynni cymunedol yn eu cymuned leol. Ges i fy nghroesawu gan wirfoddolwyr oedd yn gweithio ar hydros yng ngogledd Cymru, a mynd am dro i weld tyrbeini gwynt yn ne Cymru hefyd. Ar y cyfan, dangosa’r PhD y gwerth ychwanegol sydd gan brosiectau cymunedol i greu effaithiau cymdeithasol law yn llaw â kWh. Mae cael dewisiadau lleol, adeiladu hyder ac ymdeimlad o reolaeth ond yn rhai o’r canlyniadau sy’n codi o brosiectau ynni cymunedol. Maent yn arwain at bobl yn cymryd rhan, ac yn gosod be sy’n teimlo’n aml fel pynciau amgylcheddol haniaethol o fewn cyd-destun lleol drwy fentrau addysgiadol.
Gyda’r swydd newydd a’r flwyddyn newydd hon, dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda CEW i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n ein hwynebu yng nghymunedau Cymru wrth i ni gymryd rhan a gweld budd y newid at gymdeithas ddi-garbon.