Mae Ynni Ogwen Cyf yn gymdeithas budd cymunedol sy'n gweithio ar gyfer budd amgylcheddol a chymdeithasol yn Nyffryn Ogwen. Prif nod Ynni Ogwen Cyf yw i greu ynni drwy ddulliau adnewyddadwy. Yn benodol maent yn cynhyrchu ynni drwy system hydro ar afon Ogwen, ac yn trosglwyddo unrhyw elw i gronfa gymunedol sy'n cefnogi prosiectau cymunedol ac amgylcheddol yn Nyffryn Ogwen.
Mae elw o system hydro Ynni Ogwen wedi cael eu defnyddio i greu rhagor o brosiectau ynni adnewyddadwy, yn cynnwys 21kW o solar PVs ar 6 adeilad cymunedol. Mae elw hefyd wedi cael ei ddefnyddio i gyflogi warden ynni sy'n cefnogi teuluoedd lleol mewn tlodi tanwydd i leihau eu defnydd ynni.