Yn wreiddiol, bwriad CARE oedd gosod tyrbin ger Llanfyrnach yng ngogledd Sir Benfro. Ar ôl 13 mlynedd, rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer tyrbin gwynt cymunedol i gael ei godi yn Ffarm Trefawr, ger Llanfyrnach. Gosodwyd y tyrbin gwynt 700kW ym mis Hydref 2019.
Ers hynny mae CARE wedi tyfu, ac mae nawr wedi'i wneud o nifer o brosiectau sydd gyda'r nod creiddiol i gryfhau'r gymuned leol a gweithio gydag ymwybyddiaeth amgylcheddol.
Mae ward Crymych, lle mae cartref CARE, yn un o'r dau uchaf yng Nghymru sydd â mwyaf o risg o dlodi tanwydd. Mae'r incwm sy'n cael ei gynhyrchu drwy werthu trydan glân wedi helpu CARE i fynd i'r afael â'r broblem hon, ynghyd â chefnogi mudiadau cymunedol a phobl leol i leihau eu defnydd o garbon, creu a chefnogi mentrau gwyrdd lleol, ac helpu cymunedau i fod yn fwy gwydn drwy ddarparu hyfforddiant mewn sgiliau gweithio'r tir.