Effeithlonrwydd Ynni
Mae stoc dai Cymru ymhlith y lleiaf effeithlon yng Nghymru. Mae'r argyfwng hinsawdd yn gofyn i ni dorri allyriadau carbon, mae hynny'n golygu gwneud ein tai, yn cynnwys yr holl dai sydd yn barod wedi eu hadeiladu yn barod, more carbon-isel a sydd yn bosib.
Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi dechrau gweithgor sy'n rhannu ymarfer da mewn effeithlonrwydd ynni, yn cynnwys ôl-osod tai a darparu cyngor ar sut i leihau defnydd ynni.
Mae'r gweithgor hwnnw wedi wedi bod yn llwyddiannus yn creu cartreficlyd.cymru gwefan un man ar gyfer cyngor effeithlonrwydd ynni i berchnogion tai sydd eisiau gwybod sut i leihau ôl-troed carbon eu tai.
Yn ddiweddar mae'r gweithgor wedi llwyddo i gael arian gan gronfa REDRESS ar gyfer cynllun ôl-osod uchelgeisiol sy'n cyfannu Cymru ac yn helpu perchnogion tai i wneud eu tai'n fwy effeithlon o ran ynni.
Bydd y cyllid yn rhedeg am 2 flynedd ac yn creu 4 swydd Asesu Ôl-osod fydd yn gallu darparu gwybodaeth ac asesiadau manwl am bris gostyngol. I ddechrau bydd y gwasanaeth ar gael mewn pedwar ardal, sef Caerdydd, Sir Benfro, Powys a Gwynedd. Mae'r prosiect yn cael ei redeg gan aelod o YCC, CARE (Cwm Arian Renewable Energy). Mae rhagor o wybodaeth ar wefan cartreficlyd.cymru.