Mae fferm 1MW yn Killan Fach yn Dyfnant bellach â batri, sy’n rhyddhau ynni glân o’r haul i’r grid cenedlaethol. Yr ased solar oedd y fferm solar gyntaf o dan berchnogaeth gymunedol yng Nghymru. Adeiladwyd y fferm yn 2017. Bydd gwerthu’r ynni glân sy’n cael ei gynhyrchu ar y safle yn galluogi Cymdeithas Budd Cymunedol Gower Regeneration Ltd i gefnogi prosiectau sy’n dod â budd i’r gymuned leol.
Ariannwyd y batri’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, grant datblygu gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru. Mae dau bwynt gwefru’n galluogi cerbydau trydan i gael mynediad at 22KW o drydan (llawer mwy na phwynt gwefru cartref, sy’n golygu gwefriad cyflymach) am 6c yr awr kilowatt yn unig. Mae’r trydan sy’n llifo o’r batri i’r cerbydau trydan yn lân, nai ll ai o’r paneli solar sydd ar y safle, neu, os ydy’r cyflenwad yn isel, o ffynonnellau adnewyddadwy eraill. Gellir canfod y pwyntiau gwefru drwy’r app Podpoint, ar ffôn clyfar. Yn ôl Podpoint, os ydym yn rhannu ecosystem gwefru cerbydau trydan yn y Deyrnas Gyfunol, mae tua 60% yn bwyntiau gwefru cartref, 30% yn y gweithle, dim ond 7% mewn llefydd fel archfarchnadoedd, sinemâu, canolfannau siopa a meysydd parcio cyhoeddus, a chyn lleied â 3% ar y ffordd. Mae natur a gallu batri cerbydau trydan yn golygu bod angen cynllunio teithiau yn ofalus, a sicrhau bod y batri’n cadw ei wefr. Mae angen rhagor o wefru ar y ffordd os ydy’r Deyrnas Gyfunol am wneud y newid at gerbydau trydan yn bosibl i yrrwyr.
Croesawyd y prosiect gan SPECIFIC, Canolfan Arloesi a Gwybodaeth Prifysgol Abertawe ar gyfer ymchwil technolegol. Mae eu gwaith Adeiladau Gweithredol yn arddangos potensial adeiladau cyffredin i fod yn orsafoedd trydan. Dywedodd Nigel Morris, y pennaeth integreiddio cerbydau trydan “Mae isadeiledd gwefru yn hollbwysig i leihau allyriadau carbon o drafnidiaeth. Rhan o weledigaeth Adeiladau Gweithredol yw integreiddio’r gallu i wefru cerbydau trydan at gynhyrchu a storio trydan, fel y mae Gower Power wedi’i wneud yma.”
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Mae’r prosiect hwn yn esiampl arbennig o grŵp ynni cymunedol yn gweithio’n ddyfal i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, a dw i’n hapus bod Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r prosiect arloesol hwn. Mae hefyd yn werth nodi bod buddion y pwynt gwefru’n amlwg yn barod.”
Un arall sy’n croesawu’r pwynt gwefru yw Mark McKenna, Cyfarwyddwr Down to Earth, sef menter gymdeithasol sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd yn y Gŵyr. Dywedodd McKenna: “Mae yna angen go iawn am ragor o bwyntiau gwefru yn Gŵyr. Mae hyn bwysig ar gyfer dangos bod modd cynhyrchu ynni a’i glymu gyda gwefru cerbydau trydan. Wedi’i gyfuno â storfa batri, dyma gyfleuster anhygoel ar gyfer Gŵyr a fydd yn adeiladu hyder ymhlith y cyhoedd a busnesau i droi at drydan gyda’u cerbydau” Mae Cyngor Abertawe yn ehangu eu cyfleusterau gwefru cerbydau trydan drwy eu meysydd parcio, ac mae’r trigolion yn hapus iawn gyda’r cynnydd yn y rhwydwaith leol o orsafoedd gwefru.
Dywedodd Kate Denner, gyrrwr cerbydau trydan yn Abertawe, “Defnyddiais y pwynt gwefru am y tro cyntaf yn ddiweddar. Mae’n wych, does dim ffwdan wrthyn nhw. Mae angen lawrlwytho’r ap PodPoint, rhoi arian ar eich cyfrif ac wedyn ry’ch chi’n barod i wefru. Mae’n costio £2.50 am 75% o wefriad. Dw i’n gwerthfawrogi bod y gwasanaeth hwn mor agos at adref.”
Gall defnyddwyr ganfod y pwynt gwefru yn Fferm Killan Fach drwy ap PodPoint.