Mae YnNi Teg yn dathlu eu blwyddyn gyntaf o eneradu, gan gyhoeddi mai’r dyddiad cau ar gyfer prynu cyfranddaliadau cymunedol yn y prosiect cyffrous hwn fydd Medi 28ain.
Ers cynhyrchu ei kWh cyntaf ym mis Awst 2017, mae tyrbin cymunedol YnNi Teg ym Mwlch Gwynt, y tu allan i Meidrim yn Sir Gaerfyrddin, wedi mynd o nerth i nerth, gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys:
- Codi dros £400,000 mewn Cyfranddaliadau Cymunedol
- Talu’r benthyciad yn ôl i ddatblygwyr y tyrbin, EWT
- Dosbarthu £15,000 i brosiectau cymunedol lleol
- Parhau i werthu ein ynni i Bristol Energy, ac rydym wedi cytuno ar Gytundeb Prynu Pŵer ardderchog am flwyddyn arall
- Generadu yn agos i 2,000,000 kWh o ynni glân, dan berchnogaeth gymunedol
Wrth i’r dyddiad cau ar gyfer prynu cyfranddaliadau agosáu, rydym yn gwahodd pobl i ymweld â’r tyrbin ar Fedi 21ain, ble gall pobl weld y tyrbin wrth ei waith, gweld rhai ystadegau generadu yn fyw, a gofyn unrhyw gwestiynau am ein cynlluniau i’r dyfodol.
Comisiynodd YnNi Teg dyrbin 900kW, i ddechrau, ym mis Awst 2017, wedi ei ariannu drwy fenthyciad tymor-byr er mwyn cyfarfod y dyddiad cau ar gyfer Tariff Bwydo i Mewn y llywodraeth, gyda’r benthyciad yn cael ei ad-dalu gyda’r enillion o gynnig cyfranddaliadau cymunedol.
Bydd y cynnig cyfranddaliadau hwn yn cau ar Fedi 28ain, felly mae’r cyfle yn parhau i bobl allu buddsoddi mewn ynni glân, ynni fydd yn addas ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod. Yr isafswm ar gyfer buddsoddi yw £100, a’r mwyafswm yw £100,000, gyda tharged enillion blynyddol o 5%, ar gyfartaledd, dros oes 20 mlynedd y prosiect. Yn dilyn i’r llywodraeth dynnu eu cefnogaeth ar gyfer gwynt ar y tir yn ôl, ychydig iawn o brosiectau tyrbin gwynt dan arweiniad cymunedol sydd yn debygol o gael eu lansio yn y dyfodol agos.
Dywedodd Jeremy Thorp, Cyfarwyddwr, YnNi Teg: “Mae llywodraeth y DU wedi gwneud ei gorau i wneud i ffwrdd â phrosiectau gwynt ar y tir, yn cynnwys prosiectau anhygoel megis hwn, sydd yn cael eu cefnogi gan eu cymunedau lleol. Rydym eisiau lledaenu’r neges y gall pobl gyffredin barhau i fuddsoddi mewn pŵer gwynt – un o’r technolegau adnewyddadwy â’r gost isaf a mwyaf effeithlon yn y DU – ac elwa mewn tair ffordd: gwneud gwahaniaeth i newid hinsawdd, enillion blynyddol teg o 5% ar gyfartaledd a chodi cyllid ychwanegol ar gyfer cefnogi prosiectau ynni cymunedol tebyg yn y dyfodol.”
Mae’r tyrbin yn cynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i bweru yr hyn fyddai’n cyfateb i 650 o gartrefi cyffredin. Bydd yr arian dros ben yn mynd i Ynni Cymunedol Cymru, Menter Gymdeithasol sydd yn cynorthwyo a chefnogi grwpiau cymunedol led-led Cymru i ddechrau prosiectau ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth gymunedol.
Dywedodd Chris Blake, Cadeirydd, Ynni Cymunedol Cymru: “Mae ynni cymunedol yn hynod bwysig i alluogi cymunedau i gymryd perchnogaeth a chyfrifoldeb am gynhyrchu eu hynni adnewyddadwy glân eu hunain. Mae’r tyrbin hwn yn cynhyrchu llawer o bŵer, digon ar gyfer dros 600 o gartrefi, ond bydd hefyd yn ein cynorthwyo ni yn Ynni Cymunedol Cymru i ysbrydoli prosiectau eraill led-led Cymru i ddyblygu ac i ragori ar hyn drwy, yn llythrennol, roi’r pŵer yn ôl yng nghalon ein cymunedau.”
Yn ystod y deuddeng mis ers i’r tyrbin fod yn weithredol, mae wedi cynhyrchu yn agos i 2GWh o drydan. Mae’r pŵer sydd yn cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd yn cael ei werthu i’r cyflenwr pŵer moesegol, Bristol Energy.
Mae Gareth Ellis, un o drigolion lleol Aberhonddu, yn un o’r buddsoddwyr yn y prosiect. Dywedodd: “Rwyf wedi prynu cyfranddaliadau yn YnNi Teg gan fy mod yn cael y cyfle i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, i gefnogi economi Cymru a chael llog ar fy arian tra’n gwneud hynny.”
Mae’r grŵp wedi ennill dwy wobr glodfawr yn barod: Enillodd YnNi Teg y wobr am Fenter Gymdeithasol Gynaliadawy yng Ngwobrau Cynnal Cymru 2017, a derbyniodd y cyfarwyddwr Dan McCullum MBE yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.
I ddarganfod mwy, ac i lawrlwytho dogfen cyfranddaliadau ewch i www.ynniteg.cymru os gwelwch yn dda.