Cofio Aberfan gyda Men's Sheds Pontypridd

Croesawodd Men’s Sheds Pontypridd ein Cyd-Gyfarwyddwr Gweithredol Leanne Wood i drafod sut y gall cymunedau lunio dyfodol ynni tegach a gwyrddach.

Published: 22.10.2026 ( 2 days ago )

Rhannwyd gweledigaeth Community Energy Wales ar gyfer cymunedau ynni â Men's Sheds Men’s Sheds Pontypridd, pan wahoddwyd Cyd-Gyfarwyddwr Gweithredol, Leanne Wood, i siarad mewn un o sesiynau rheolaidd y grŵp yn Neuadd Gymunedol Taff Meadow yn Nhrefforest. Croesawyd hi gan Roger a Mike, sy’n trefnu sgyrsiau, digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd i’r grŵp mawr hwn o ddynion o bob oed a chefndir.

Mae Cymunedau Ynni yn digwydd pan fydd pobl mewn ardal benodol yn dod at ei gilydd i wneud y mwyaf o’r hyn y gallant ei gynhyrchu’n breifat drwy solar ar doeau, ac yna ychwanegu at hynny gyda asedau cynhyrchu sy’n eiddo i’r gymuned (mwy o solar, gwynt, micro-hydro, cynlluniau gwresogi cydrannol). Defnyddir yr ynni hwn gan y gymuned, ac mae unrhyw ormodedd yn cael ei allforio i’r grid.

Drwy wneud y mwyaf o’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio’n lleol, heb orfod dibynnu ar y system drosglwyddo trydan, gellir torri costau i ddefnyddwyr a chynhyrchwyr. Mae hyn yn golygu bod mwy ar gael i’w wario gan y gymuned ynni ac i’w ailfuddsoddi mewn rhagor o asedau cynhyrchu i leihau biliau ymhellach ac i gynyddu gwydnwch cymunedol ac ynni.

Mwynhaodd Men’s Shed Pontypridd y sgwrs ac fe ofynnwyd llawer o gwestiynau diddorol. Roedd yn galonogol clywed am bryder pobl dros natur yn ogystal â’u cymunedau. Yn amlwg maen nhw’n cael llawer o hwyl hefyd – mae hiwmor yn rhan fawr o’u gweithgareddau!

Fodd bynnag, bu eiliad ddifrifol a theimladwy iawn ar ddechrau’r sesiwn.

Cynhaliwyd munud o dawelwch i gofio’r holl fywydau a gollwyd ar 60 mlynedd ers trychineb Aberfan – trychineb y gellid fod wedi ei osgoi.

Roedd yn bwrpasol ac yn addas ein bod yn meddwl am ein dyfodol ynni wrth i gymunedau’r cymoedd ddod ynghyd i gofio canlyniadau diwydiant ynni’r gorffennol.

Wrth inni feddwl am y dyfodol, rhaid inni gofio ac ymdrin â’r gwersi o’r gorffennol drwy roi anghenion pobl a chymunedau wrth wraidd y dyfodol hwnnw.

Gallwch ddarllen ein gweledigaeth ar gyfer cymunedau ynni yma:

https://ynnicymunedol.cymru/newyddion/maniffesto-ynni-cymunedol-cymru-gweledigaeth-feiddgar-a-hanfodol

Pagination

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.