Adnoddau Addysgu

Adnoddau defnyddiol i athrawon ac addysgwyr

Beth yw Ynni Cymunedol?

Pan fo cymunedau â pherchnogaeth dorfol dros prosiectau ynni lleol – tyrbin gwynt, fferm solar neu gorsaf hydrodrydanol.

Mae’r elw o’r prosiectau hyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer budd cymunedol. Mae hefyd yn gallu cael ei ddefnyddio i leihau tlodi tanwydd, creu busnesau eraill o dan berchnogaeth gymunedol neu adeiladu ardaloedd gwyrdd. Beth bynnag yw anghenion y gymuned.

Mae Ynni Cymunedol yn casglu newid hinsawdd, amgylchedd, cymuned leol, yr iaith Gymraeg a chynaliadwyedd.

Adnoddau

Dyma ambell adnodd i’ch helpu chi:

Mae gan GwyrddNi tudalen sy’n llawn dop o adnoddau addysgu ar addysg hinsawdd https://www.gwyrddni.cymru/en/educational-resources/ Mae ein haelodau Ynni Sir Gar wedi datblygu ystod eang o adnoddau, sy’n cynnwys nofel graffeg ar ynni, perchnogaeth a chymuned ynghyd â chanllaw ar sut i weithredu yn eich cymuned. https://www.ynnisirgar.org/resources

Mae’n bosib gwneud cais ar gyfer cenhadwr STEM i ddod a siarad am bwnc yn eich ysgol, yn cynnwys pympiau gwres a thechnolegau adnewyddadwy. https://www.stem.org.uk/stem-ambassadors/request-stem-ambassador

Ysgrifennodd ein Swyddog Gweithredu a Datblygu y cynllun gwers hwn ar gyfer Gwyddoniaeth Cyfnod Allweddol 2 ar gysylltu gyda newid hinsawdd. https://www.anewdirection.org.uk/resources/connecting-to-climate-change

Mae gwefan Sbarc Ynni yn gallu eich helpu chi i dracio data ynni byw yn eich ysgol er mwyn datblygu ymwybyddiaeth dysgwyr o effeithlonrwydd ynni. https://cy.energysparks.uk/

Mae gwefan Transform Our World yn adnodd ar gyfer y DU/Iwerddon ac yn cynnwys nifer o adnoddau da iawn. Maent yn anfon cylchlythyr misol ar addysg a digwyddiadau hinsawdd sydd yn bosib eu cymhwyso i’r dosbarth. Transform Our World: bringing environmental action into the classroom with quality-rated resources (transform-our-world.org)

Mae gan ein haelodau EGNI ambell fideo arbennig yn dangos grym ynni cymunedol: Egni Co-op Solar: Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas https://youtu.be/AcxIKfEodBw

Hwb y Gors (Cymraeg) https://www.youtube.com/watch?v=HW4E86IPdoo

Merthyr FC Solar https://youtu.be/rD8FL1QGvZM

Ymuno â ni

Rydym yn datblygu rhwydwaith o ymarferwyr addysg ac ymgysylltu sydd â diddordeb mewn datblygu ymwybyddiaeth ynghylch ynni cymunedol. Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â ni info@communityenergywales.org.uk

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.