Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio
Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.
Defnyddiwch ein hadnoddau i gysylltu â'ch ymgeiswyr lleol i gefnogi ein haddewid ynni cymunedol.
Mae gan Ynni Cymunedol Cymru dri mesur rydyn ni am i ymgeiswyr yn yr etholiad cyffredinol i gefnogi:
Gallwch lawrlwytho fersiwn dwyieithog o'r manylion yma. Os ydych chi'n ymgeisydd sydd â diddordeb mewn cefnogi ein haddewid ynni cymunedol, tanysgrifiwch i'n rhwydwaith RhanNi, gadewch i ni wybod le rydych chi'n sefyll ac os ydych chi'n cefnogi'r tri mesur.
Os ydych chi'n un o'n haelodau, neu'n bencampwr ynni cymunedol (rhan o'r rhwydwaith RhanNi o gefnogwyr ynni cymunedol), gadewch i ni wybod os ydych chi eisiau cysylltu â'ch ymgeiswyr lleol i ofyn am gefnogaeth. Fedrwn ni ddarparu llythyr eglurhaol a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Mae pobl yn parhau i wynebu ansicrwydd pan ddaw at ynni. Mae’r cynnydd diweddar mewn prisiau, a waethygwyd gan ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil a’r ffordd gymhleth y mae ein marchnadoedd ynni’n gweithio wedi dangos natur anwadal ein biliau ynni, gan wthio 45% o gartrefi Cymru i mewn i dlodi. Mae’r IPCC (2021) yn dweud wrthym fod effeithiau newid hinsawdd yn “gyflym, helaeth ac yn dwysáu”. Fodd bynnag, pe bai’r newidiadau angenrheidiol sy’n rhan o’r broses o bontio at sero net yn arwain at waethygu pellach mewn tlodi tanwydd, neu’n anwybyddu anghenion cymunedau, mi fuasai’r broses bontio yn elfennol anghyfiawn. Mewn sefyllfa debyg, byddai’r gwrthwynebiad i’r datblygiadau’n ddealladwy ac yn gyfiawn.
Mae Ynni Cymunedol Cymru eisiau sicrhau nad yw datgarboneiddio ein system ynni a phontio tuag at sero net yn ddull arall i gorfforaethau wneud elw anferthol o’n hadnoddau naturiol, gan roi dim arian na rheolaeth yn ôl (heblaw am fuddion cymunedol mewn rhai achosion) i'r cymunedau y maent yn echdynnu’r adnoddau naturiol wrthynt.
Mae ein cymunedau wedi gweld dirywiad yn eu gwead cymdeithasol dros yr hanner canrif diwethaf. Mae’r ffyrdd y mae ein cymunedau’n rhyngweithio wedi newid, ac mae’r gwasanaethau cyhoeddus oddi fewn iddynt wedi gwaethygu. Mae ynni cymunedol yn cynnig cyfle i adfywio’r ysbryd cymunedol sydd wedi aros yn driw yng Nghymru ers canrifoedd a rhoi iddo bwrpas o’r newydd.
Mae cymunedau Cymru wedi bod yma o’r blaen. Mae’n rhaid i ni ddysgu ein gwersi o’n hanes. Mae’r methiant i sicrhau bod y cyfoeth a grewyd gan lo, llechi, copr a thin yn cael eu cadw yn y cymunedau lle ffynnodd y diwydiannau hynny wedi gadael y cymunedau o’u hamgylch â rhai o’r lefelau uchaf o dlodi yng Ngorllewin Ewrop heddiw.
Dyma gyfle unwaith mewn oes i greu newid sylfaenol i strwythur ein cymdeithas. Os ydym yn gweithredu yn y dull cywir, ac yn mynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd gyda pherchnogaeth gymunedol o asedau ynni, gallwn sicrhau’r buddion economaidd am genedlaethau i ddod.
Nid yw’r trywydd hyn o ddirwyiad yn anorfod i'n cymunedau. Mae’n bosib i ni newid y stori.
Mae’r sector ynni cymunedol yng Nghymru yn credu bod gwerthoedd ynni cymunedol yn creu cymunedau cryf, annibynnol a chymdeithas well.
Gellir canfod esiamplau o grwpiau ynni cymunedol a’r gwerthoedd maent yn eu harddel yn ein hadroddiad cyflwr y sector state-of-the-sector-2023.pdf (communityenergy.wales)
Rydym o’r farn y buasai modd i’r gwerthoedd hyn fuddio rhagor o gymunedau a’n cymdeithas gyfan mewn amryw o ddullai pe bai twf mewn ynni cymunedol, a bob pawb, ym mhob man yn gallu cael mynediad ato.
Mae hyn yn golygu newid y system.
Dychmygwch system ynni sydd wedi’i ddylunio ar gyfer anghenion pobl a’r blaned. Dychmygwch rwydwaith ddatganoledig o gynhyrchwyr ynni lleol o dan berchnogaeth pobl leol, yn darparu ynni i ganoedd neu filoedd o gartrefi a busnesau o fewn pob ardal is-orsaf trydan.
Dychmygwch adeiladau effeithlon o ran ynni, lle mae pobl yn gallu bod yn ddoeth am eu defnydd ynni drwy ddefnyddio data i fonitro cynhyrchiant o fewn eu hardal is-orsaf. Gallent defnyddio ynni’n rhatach pan fo’r galw amdano’n is, a/neu phan fo lefelau cynhyrchu’n uchel. Gallent wneud penderfyniadau i leihau eu biliau drwy ddefnyddio eu hynni ar yr adegau hyn, neu gwario mwy i ddefnyddio trydan o’r grid yn ystod cyfnodau o gynhyrchiant isel neu phan fo’r galw’n uchel.
Dychmygwch bob dinesydd yn eiddo ar ran o’r asedau ynni sy’n cynhyrchu’r hyn maent yn eu defnyddio, ac yn derbyn llog ar eu buddsoddiad. A dychmygwch yr elw neu’r arian dros ben o’r cynhyrchiant hwn yn cael ei ddychwelyd, a’i ailfuddsoddi mewn rhagor o asedau cymunedol, rhagor o brosiectau ynni, neu welliannau cymunedol ac amgylcheddol.
Yn wahanol i danwyddau ffosil, mae modd datganoli technoleg ynni adnewyddadwy a’i gynhyrchu unrhyw le, ar unrhyw faint – gan alluogi dull gyfangwbl wahanol o strwythuro ein system ynni. Dyma gyfle i'n cymunedau achub y blaen a chymryd rheolaeth dros eu dyfodol.
Byddai ynni lleol rhatach o dan berchnogaeth gymunedol leol yn creu cysylltiad uniongyrchol rhwng dinasyddion â’u hynni. Bydd ynni lleol yn torri biliau, gan helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Byddai hyn, gyda’r buddion ychwanegol sy’n dod o berchnogaeth gymunedol, yn helpu lleihau gwrthwynebiad lleol i ddatblygiadau ynni adnewyddadwy, gan alluogi rhagor i gael eu hadeiladu, ac yn eu tro cynyddu dygnwch y system ynni.
Byddai system lleol, ddatganoledig fel hyn yn lleihau’r pwysau ar y grid trosglwyddo, hybu defnydd doeth o ynni a lleihau allyriadau. Gan fod ynni cymunedol yn nid-er-elw, neu’n fwy-nag-elw, byddai sector mwy yn darparu rhagor o gyllid ar gyfer prynu a datblygu rhagor o asedau cymunedol, cyfleusterau cymunedol, ardaloedd gwyrdd, bioamrywiaeth a chyfrannu tuag at adeiladu cronfa cyfoeth cymunedol – pot o gyllid ar gyfer ailfuddsoddi mewn proseictau ynni cymunedol.
Ein gofynion:
Mae’r sector ynni cymunedol eisiau gweld deddfwriaeth yn cael ei gyflwyno cyn gynted a phosib o dan lywodraeth newydd San Steffan i greu hawl gyfreithiol i gael mynediad at ynni lleol.
Rydym yn gofyn i ymgeiswyr etholiad gefnogi’r ddeddfwriaeth hon a gwthio am osod targedau i bobl i fod yn gallu derbyn canran gynyddol o’r ynni maent yn ei gynhyrchu o gynhyrchiant lleol dros amser, ar dariff lleol teg sy’n cymryd mewn i ystyriaeth yr arbedion i isadeiledd y grid.
Er mwyn cychwyn system leol fel hon, mae angen cefnogaeth wleidyddol ar y sector ynni cymunedol i adeiladu partneriaethau gyda’r sector gyhoeddus fel bod cyrff sector cyhoeddus yn prynu eu hynni o ddarparwyr ynni cymunedol lleol. Byddai’r cynnydd hwn yn y galw am ynni cymunedol yn arwain at ddatblygu rhagor o asedau ynni cymunedol. Drwy Gytundebau Prynu Ynni “llawes” (“sleeved PPAs”), gwifren breifat neu unrhyw fecanwaith arall posib, dylai adeiladau sector cyhoeddus sy’n defnyddio llawer o drydan geisio derbyn y gyfran uchaf bosib o’u hynni gan ffynhonellau lleol ar lefel is-orsaf. Byddai hyn yn lleihau biliau sector cyhoeddus ac yn darparu incwm i grwpiau ynni cymunedol – oherwydd ni fydd angen i'r costau trawsgludo gael eu talu. Byddai ailfuddsoddi’r elw yn creu rhagor o grwpiau ynni adnewyddadwy, rhagor o osodiadau a rhagor o ynni. Dylid galluogi cyrff sector cyhoeddus i adrodd 100% o’r ynni adnewyddadwy a brynwyd fel hyn yn ddi-garbon, NID fel ffactor carbon y grid fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Ein gofynion:
Rydym yn gofyn i ymgeiswyr yn yr etholiad i gefnogi gosod targedau ar gyfer ynni sydd wedi’i gaffael gan y sector cyhoeddus i ddod o ffynhonellau lleol neu gymunedol, gan gynyddu dros amser.
Mae nifer o rwystrau yn atal twf ynni cymunedol, a chyllid sy’n cael ei adnabod fel un o’r rhai pennaf.
Mae gwledydd eraill – Norwy er enghraifft, wedi adeiladu cronfeydd cyfoeth gwladol o’r arian a gynhyrchwyd gan ddatblygiadau tanwyddau ffosil hanesyddol. Mae hyn werth tua £225,000 fesul dinesydd yn Norwy heddiw.
Gan ddilyn yr un egwyddor, gellir creu cronfa gyfoeth cymunedol a’i chynnal drwy gyflwyno ardoll newydd fel ‘rhent ar adnoddau naturiol’. Byddai datblygwyr sy’n defnyddio gwynt, solar, hydro neu’r môr yn talu ardoll ar eu trosiant i wneud yn iawn am ddefnyddio’r adnoddau naturiol sy’n glanio ar diriogaeth Cymru. Yn wahanol i'r gronfa yn Norwy sy’n cael ei defnyddio ar gyfer gwariant cyffredinol gan y llywodraeth, byddai Cronfa Cyfoeth Cymunedol Cymru yn cael ei gwarchod ar gyfer ailfuddsoddi mewn mesurau effeithlonrwydd ynni a datblygu cynhyrchiant ynni cymunedol newydd.
Ynni cymunedol – buddion perchnogaeth i bawb
Derbyniodd y sector ynni cymunedol hwb gan y tariff cyflenwi. Roedd hyn yn gymhelliant i gynhyrchwyr ar raddfa fach i werthu eu hynni i'r grid cenedlaethol. Daeth y tariff cyflenwi i ben yn 2019. Sefydlwyd y rhan fwyaf o fusnesau ynni cymunedol sy’n gweithredu ar hyn o bryd yn ystod y cyfnod hwn.
Drwy gyfuniad o fenthyciadau, grantiau a chynigion cyfranddaliadau, mae cyfalaf wedi cael ei godi yn draddodiadol ar y ddealltwriaeth y byddai’r arian sy’n cael ei gynhyrchu’n ddigon i wasanaethu’r cyllid cychwynnol hwn, a chreu elw bychan ar gyfer ailfuddsoddi.
Mae cyfranddaliadau cymunedol yn galluogi pobl i fod yn gyfranogwyr mwy uniongyrchol mewn ynni cymunedol. Gyda chyfranddaliadau, mae pobl yn rhannu perchnogaeth. Maent yn derbyn swm ariannol bychan fel llog ar eu buddsoddiad ac yn cael hawliau pleidleisio i benderfynu sut mae unrhyw arian dros ben yn cael ei wario.
Er bod rhai grwpiau ynni cymunedol wedi ceisio eu gorau drwy brynu cyfranddaliadau ar ran pobl ar incwm isel gyda’u harian dros ben, mae’r rhan fwyaf o bobl sydd heb y gallu – yn cynnwys y rhai mewn tlodi tanwydd, methu cymryd rhan a phrynu cyfranddaliadau.
Mae’r sector ynni cymunedol eisiau i bawb sydd am fod yn rhan o’r mudiad ynni cymunedol, ym mhob cymuned, allu gwneud hynny. Hoffem weld y Gronfa Cyfoeth Cymunedol yn cefnogi’r rheini ar incwm isel neu mewn tlodi tanwydd i fod yn eiddo ar gyfranddaliadau ynni cymunedol.
Drwy alluogi rhagor o ddinasyddion i fod yn eiddo ar gyfranddaliadau cymunedol mewn prosiectau lleol, wedi’u hariannu gan y gronfa cyfoeth cymunedol, byddai modd i ragor o bobl gael mynediad ato, cymryd rhan ynddo, a deall buddion a grym democrataidd perchnogaeth gymunedol o ynni.
Ein gofynion:
Mae’r sector ynni cymunedol eisau gweld diwygiadau i gyflwyno “rhent ar adnoddau naturiol” newydd ar gyfer pob datblygiad ynni a seilwaith ynni, gyda’r cyllid sy’n cael ei gynhyrchu yn cyfrannu at gronfa cyfoeth cymunedol newydd. Byddai’r gronfa hon yn cael ei defnydio i ailfuddsoddi mewn rhagor o gynlluniau ynni cymunedol ac effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys drwy gefnogaeth i’r rhai ar incwm isel a grwpiau gwirfoddol fod yn eiddo ar gyfranddaliadau ynni cymunedol.
Mae aelodau a chefnogwyr grwpiau ynni cymunedol yn galw ar yr holl ymgeiswyr etholiadol i ddarparu cefnogaeth ymarferol i'r sector drwy danysgrifio i’n gofynion a’u gweithredu os ydynt yn ennill sedd.
Ynni Cymunedol. Dyma yw ein hamser ni.